Grŵp Trawsbleidiol - Plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu
Adroddiad Blynyddol Tachwedd 2015
Christine Chapman AC
Aled Roberts AC
Jocelyn Davies AC
Suzy Davies AC
Ysgrifenyddiaeth
Barnardo's Cymru
laura.tranter@barnardos.org.uk
Rhagair gan Christine Chapman AC (Cadeirydd)
Ers rhai blynyddoedd mae pryder cynyddol yng Nghymru ynghylch annhegwch yn y system cyfiawnder. Un annhegwch o'r fath yw’r arfer o garcharu merched sy’n troseddu ac effaith hynny ar eu teuluoedd.
Wrth gynnal gwaith ymchwil, gwelwyd bod carcharu merched yn bendant yn cael effaith sylweddol ar rieni, plant a theuluoedd. Yn dilyn ymweliad â Charchar Parc i weld manteision eu dulliau arloesol o ymyrryd drwy ymdrin â’r teulu cyfan, fe’n hysgogwyd i geisio gwella profiadau plant a theuluoedd y rhai a gaiff eu carcharu.
Er mwyn deall sut y mae carcharu rhieni’n effeithio ar blant ac i yn diffinio’r problemau ymhellach, sefydlwyd grŵp trawsbleidiol gan sicrhau cefnogaeth yr holl bleidiau. Nod y grŵp yw cyflwyno adroddiad erbyn diwedd y pedwerydd Cynulliad a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru yn ymwneud â’i chyfrifoldebau datganoledig a’r cyfrifoldebau heb eu datganoli.
Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno a thrafod yr adroddiad ar gasgliadau’r grŵp yn gynnar yn 2016.
Cyfarfodydd
1. 13 Mai 2014
Cyfarfod Cyntaf
Christine Chapman AC (Cadeirydd)
Cytunwyd ar y cylch gorchwyl (Atodiad 1) a'r blaengynllun gwaith (Atodiad 2)
Y cyd-destun
Cafwyd cyflwyniadau gan:
Corin Morgan-Armstrong
Pennaeth Ymyriadau Teulu ac Invisible Walls Cymru (IWW). Carchar Parc
Jo Mulcahy
Pennaeth Gwasanaethau Cymru a'r De-orllewin. PACT
Laura Tranter
Rheolwr y Gwasanaeth Strategol, Plant sy’n Dioddef gan fod eu Rhieni wedi’u Carcharu, Barnardo's Cymru
2. 22 Hydref 2014
Addysg, llesiant a phlant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu
Christine Chapman AC (Cadeirydd)
Cyflwyniad a thrafodaeth
Addysg, llesiant a phlant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu
Sam Clutton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Polisi, Barnardo's Cymru
Cytgord Invisible Walls: Gweithio gydag ysgolion
Corin Morgan-Armstrong, Pennaeth Ymyriadau Teuluol ac IWW, Carchar Parc
Cefnogi addysg plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu, drwy ddefnyddio gwasanaethau Awdurdod Addysg Lleol
Zoe Lancelott - Pennaeth Ymgysylltu a Chyfranogi Rhondda Cynon Taf
Llawlyfr Barnardo's Cymru i Ysgolion a gwaith Cymorth Cymunedol i Deuluoedd Troseddwyr (CSOF) ym myd addysg
Emma Reed - Gweithiwr Prosiect Barnardo’s Cymru
3. 10 Mawrth 2015
Carcharu Merched
Christine Chapman AC - Cadeirydd
Cyflwyniad a thrafodaeth
Gwaith ymchwil
Robert Jones - Darlithydd Troseddeg Prifysgol De
Cymru
Prosiect Ymweld â Mam
Jo Mulcahy - Pennaeth Gwasanaethau Rhanbarthol PACT
Prosiect Llwybr Merched
Wendy Hyett - Rheolwr Prosiect Braenaru i Ferched IOM Cymru
4. 7 Gorffennaf 2015
Plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu
Christine Chapman AC - Cadeirydd
Cyflwyniad a thrafodaeth
Y Cyd-destun Cenedlaethol
Dr Sam Clutton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Barnardo’s Cymru - Polisi.
Gweithio gyda theuluoedd yng Nghanolfan Ymwelwyr Carchar a Chanolfan Troseddwyr Ifanc Parc
Helen Steele, Gweithiwr Canolfan Ymwelwyr Barnardo’s Cymru.
Carchar, teuluoedd a thlodi
Jo Mulcahy, Pennaeth Gwasanaethau Rhanbarthol PACT
Carchar, Teuluoedd a Thlodi
Lyndsey Kearton, Swyddog Polisi Cyngor ar Bopeth
5. 9 Gorffennaf 2015
Ymweld â Charchar Parc:
Suzy Davies AC
Aled Roberts AC
Jackie Radford AC
Staff cymorth Aled Roberts
Ymwelwyd â’r Ganolfan Ymwelwyr, y Neuadd Ymwelwyr, yr adran Ymyriadau Teuluol yng nghwmni Corin Morgan-Armstrong, G4S.
Blaengynllun Gwaith
Bydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant sy’n Dioddef gan fod eu Rhieni wedi’u Carcharu yn cynnal ei gyfarfod cyhoeddus cyntaf ar 24 Tachwedd 2015. Bydd ffurf y cyfarfod hwn yn wahanol er mwyn hwyluso cysylltiad uniongyrchol, sgwrs a thrafodaeth rhwng plant, eu teuluoedd a'r rhai sy'n datblygu polisïau ac yn gwneud penderfyniadau.
Mae'r Grŵp yn bwriadu cyhoeddi ei adroddiad terfynol yn gynnar yn 2016.
Datganiad Ariannol
Dim ond costau arlwyo sydd gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Garcharu Rhieni a Barnado’s Cymru sydd wedi ysgwyddo’r holl gostau hyn.
Ni wnaed unrhyw gais am dreuliau.
Barnardo’s Cymru hefyd ysgwyddodd y costau ychwanegol i ganiatáu i blant, pobl ifanc a theuluoedd fod yn bresennol gan gynnwys trafnidiaeth, staffio a chynhaliaeth.
Yn bresennol:
Aelodau
Christine Chapman AC (Cadeirydd)
Aled Roberts AC
Jocelyn Davies AC
Suzy Davies AC
Julie Morgan AC
Janet Haworth AC
Mike Hedges AC
Cynrychiolwyr a oedd yn bresennol:
Barbara Natasegara (Cymru Ddiogelach)
Ben Ford (Write to Freedom)
Bernie Bowen-Thomson (Cymru Ddiogelach.
Beverley Poitner (FFOPS)
Caroline Ryan (YMCA Caerdydd)
Carol Floris (SOVA)
Catherine Davies (Barnardo’s Cymru)
Charlie Cable (SOVA)
Chris Powles (Ieuenctid Sir Benfro)
Christine Mathias (Awdurdod Lleol Sir Benfro)
Corin Morgan-Armstrong (Carchar Parc)
Danielle Rayner (Rheoli Integredig Troseddwyr Cymru) Elaine Speyer (Cofnodion Barnardo’s Cymru)
Emma Jones (Gibran)
Emma Reed (Barnardo's Cymru)
Emma Wools (Y Gwasanaeth Prawf)
Emma Richards (CRC Cymru)
Eve Exely (Prifysgol Caerdydd)
Eve Wilmott (Myfyrwraig MA)
Gareth Williams (YMCA Caerdydd)
Gemma Jones (Cymorth i Fenywod)
Helen Steele (Barnardo’s Cymru)
Ingrid Zammit (NOMS)
Jack Stanley (Swyddfa Peter Hain)
Jessica Joyce (Prifysgol Caerdydd )
Jo Mulcahy (PACT)
Joanne Heatley (The Wallich)
Staff Jocelyn Davies
Justine Jenkins (Ymddiriedolaeth St Giles)
Karen Rees (Barnardo's Cymru)
Kate Doyle (SOVA)
Laura O’Keefe (Canolfan Gwirfoddol Caerdydd)
Laura Tranter (Barnardo’s Cymru)
Lee Dutton (Ymddiriedolaeth St Giles)
Leeanne Plechowicz (Llywodraeth Cymru)
Leon Morgans (CRC / Gwasanaeth Prawf Cymru)
Lindsey Pudge (Barnardo’s Cymru)
Lindsey Kearton (Cyngor ar Bopeth)
Lyndon Samuel (Heddlu Gwent)
Margaret Gardner (FASO)
Mary Cooke (Invisible Walls Cymru)
Mary van den Heuvel (ALT)
Nicky Sturgess-Webb (Awdurdod Lleol Bro Morgannwg)
Nicola Thomas (Invisible Walls Cymru)
Neera Sharma (Barnardo’s)
Rachel Thomas (Dirprwy Gomisiynydd Plant Cymru)
Robert Jones (Prifysgol De Cymru /Canolfan Llywodraethiant Cymru)
Robin Lewis (Staff cymorth AC)
Sam Clutton (Barnardo's Cymru)
Sara Steele (Canolfan Gwirfoddol Caerdydd)
Shamshi Ahmed (SOVA)
Sian Mile (Staff Cymorth AC)
Sian Thomas (MRS y Cynulliad Cenedlaethol)
Tim Ruscoe (Barnardo's Cymru)
Tony Kirk (NOMS)
Trish Woodhouse (PACT)
Vicki Evans (Staff Cymorth AC)
Wendy Hyett (Prosiect Braenaru i Ferched IOM)
Yvonne Rodgers (Barnardo’s Cymru)
Zoe Lancelott (Adran Addysg Rhondda Cynon Taf)
Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad Cenedlaethol ar Blant sy’n Dioddef gan fod eu Rhieni wedi’u Carcharu - cylch gorchwyl (nid yw wedi’i fabwysiadu’n ffurfiol eto).
Gweledigaeth
Sefydlu polisi cenedlaethol, fframwaith deddfwriaethol a fframwaith arfer i sicrhau bod pob plentyn sy'n dioddef oherwydd bod rhiant yn y carchar yn cael ei gydnabod, yn cael ei glywed, ac yn cael cyfle cyfartal a theg i sicrhau canlyniadau da mewn bywyd.
Cylch Gorchwyl
Bydd disgwyl i’r rhai yr ystyrir eu bod yn aelodau o'r grŵp gyfrannu at weithrediad y grŵp, lle bynnag y bo'n rhesymol bosibl, yn bersonol neu drwy gynrychiolydd. Bydd cyfraniadau cynrychiolydd yn cael eu hystyried fel cyfraniadau’r aelod oni nodir yn wahanol.
Bydd disgwyl i aelodau'r grŵp, neu eu cynrychiolwyr, ymateb, lle bynnag y bo modd, i wybodaeth a rennir a cheisiadau a wneir rhwng y cyfarfodydd a drefnwyd.
Darganfod - casglu gwybodaeth, profiadau ac ymchwil
· Ystyried gwybodaeth a gaiff ei chasglu’n uniongyrchol gan deuluoedd sy’n dioddef oherwydd bod rhiant yn y carchar.
· Ystyried gwybodaeth a gaiff ei chasglu gan ddarparwyr gwasanaethau arbenigol.
· Ystyried gwybodaeth a gaiff ei chasglu gan wasanaethau generig ar gyfer plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu.
· Ystyried canlyniadau gwaith ymchwil.
· Ystyried blaenoriaethau gwaith ymchwil newydd.
· Ymweld â gwasanaethau.
· Cynnal ymweliadau eraill, ee Carchar Parc.
Diffinio - disgrifio a thynnu sylw at y problemau
· Dwyn ynghyd yr ystod o broblemau sy’n wynebu teuluoedd sydd â phlant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu, i greu darlun o’u hanghenion cymhleth ac i ddangos pa mor ddigonol yw’r ymatebion presennol.
· Ystyried y problemau’n ymwneud ag Atodlen 7.
o Ystyried gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.
§ Beth allai Llywodraeth Cymru ei hyrwyddo?
§ Beth y gallai Llywodraeth Cymru ei gyflawni?
Lledaenu gwybodaeth
· Manteisio ar gyfleoedd i ofyn cwestiynau ysgrifenedig a llafar yn y Cyfarfod Llawn.
· Manteisio ar gyfleoedd i gynnal dadleuon byr.
· Ystyried sut y gellid dylanwadu ar gynlluniau gwaith ac ymholiadau pwyllgorau’r Cynulliad yn y dyfodol.
· Cynhyrchu adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol gan gynnwys diffinio'r problemau a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.
Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad Cenedlaethol ar Blant sy’n Dioddef gan fod eu Rhieni wedi’u Carcharu
Dyddiadau a phynciau trafod arfaethedig:
13 Mai - hanner dydd yn Nhŷ Hywel
Cyfarfod agoriadol
Yn y cyfarfod hwn, caiff yr aelodau eu penodi i swyddi allweddol, caiff sail resymegol y grŵp ei esbonio, cytunir ar y cylch gorchwyl a’r cynllun gwaith, ceir cyflwyniadau gan aelodau i osod y cyd-destun.
Dedfryd gudd
Yn y cyfarfod hwn, ystyrir y “ddedfryd gudd" a roddir i blant a theuluoedd y rhai a gaiff eu carcharu a cheir cyflwyniadau gan aelodau i ganolbwyntio ar rai o'r materion allweddol
Addysg
Yn y cyfarfod hwn, ystyrir rôl addysg o ran nodi a chefnogi plant a theuluoedd sy’n dioddef gan fod rhieni wedi’u carcharu a thrafodir y gwaith a wnaed eisoes yng Nghymru i ddatblygu'r maes hwn.
Carcharu merched
Ymchwilio i'r materion penodol sy'n effeithio ar ferched o Gymru sy’n cael eu carcharu y tu allan i Gymru ac effaith hyn ar eu teuluoedd.
Materion ariannol / Budd-daliadau
Yn y cyfarfod hwn, rhoddir sylw i’r effaith ariannol a gaiff penderfyniad i garcharu rhiant/gofalwyr a sut y gall colli incwm neu fudd-dal olygu bod teuluoedd sy’n agored i niwed yn cael eu gwthio ymhellach i dlodi.
Beth nesaf?
Yn y cyfarfod hwn, ystyrir cyflwyno'r gwaith ymchwil a wnaed yn ystod oes y Grŵp Trawsbleidiol gan drafod strategaeth i fwrw ymlaen â’i argymhellion.
Datganiad o wariant
13 Mai 2014
Gwasanaeth Arlwyo Charlton House
Cinio a lluniaeth 289.60
TAW 57.92
Total 347.52
22 Hydref 2014
Gwasanaeth Arlwyo Charlton House
Cinio a lluniaeth 267.20
TAW 53.44
Cyfanswm 320.64
10 Mawrth 2015
Gwasanaeth Arlwyo Charlton House
Cinio a lluniaeth 234.65
TAW 46.93
Cyfanswm 281.58
7 Gorffennaf 2015
Gwasanaeth Arlwyo Charlton House
Cinio a lluniaeth 168.45
TAW 33.69
Cyfanswm 202.14
Cyfanswm heb gynnwys TAW (£) 959.90
Cyfanswm yn cynnwys TAW (£) 1215.24